Polisi Preifatrwydd

Diolch am ddewis Swyddi Bwyd a Diod Cymru (“Platfform”). Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn amlinellu sut rydym yn casglu, defnyddio, datgelu, a diogelu eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn defnyddio ein Platfform. Trwy gyrchu neu ddefnyddio’r Platfform, rydych yn cytuno i’r arferion a ddisgrifir yn y Polisi Preifatrwydd hwn.

Mae Swyddi Bwyd a Diod Cymru yn blatfform ar-lein rhad ac am ddim i hysbysebu swyddi gwag yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rheolir y safle gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, sef rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a ddarperir gan Menter a Busnes.

1. Yr wybodaeth a gasglwn Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o wybodaeth:

a. Gwybodaeth bersonol: Pan fyddwch yn creu cyfrif neu’n rhyngweithio â’n Platfform, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth sy’n eich adnabod chi’n bersonol, fel eich enw, cyfeiriad e-bost, manylion cyswllt, ac unrhyw wybodaeth arall rydych yn ei darparu’n wirfoddol.

b. Rhestrau swyddi: Os byddwch yn postio rhestrau swyddi ar y Platfform, efallai y byddwn yn casglu’r cynnwys a gyflwynwch.

c. Gwybodaeth am ddefnydd: Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth benodol yn awtomatig am eich defnydd o’r Platfform, megis eich cyfeiriad IP, gwybodaeth dyfais, math o borwr, a system weithredu.

d. Cwcis a thechnolegau tebyg: Efallai y byddwn yn defnyddio cwcis a thechnolegau olrhain tebyg i wella eich profiad ar y Platfform ac i ddeall sut rydych yn ei ddefnyddio.

2. Sut y defnyddiwn eich gwybodaeth Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwn at wahanol ddibenion, gan gynnwys:

a. Gweithrediad y Platfform: Darparu, cynnal a gwella ymarferoldeb y Platfform a phrofiad y defnyddiwr.

b. Cyfathrebu: I gyfathrebu â chi ynghylch eich cyfrif a diweddariadau Platfform. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi am adborth.

c. Dadansoddeg: I ddadansoddi patrymau defnydd, monitro perfformiad y Platfform, a chynnal ymchwil i wella ein gwasanaethau.

3. Sut y rhannwn eich gwybodaeth Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth o dan yr amgylchiadau canlynol:

a. Rhestrau swyddi: Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon â phartïon perthnasol eraill.

b. Darparwyr gwasanaeth: Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â darparwyr gwasanaethau trydydd parti sy’n ein cynorthwyo i weithredu’r Platfform a darparu ein gwasanaethau.

c. Gofynion cyfreithiol: Mae’n bosibl y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth pan fo angen yn ôl y gyfraith neu mewn ymateb i geisiadau cyfreithiol dilys.

4. Diogelwch data Rydym yn cymryd camau rhesymol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol rhag mynediad heb awdurdod, datgelu, newid neu ddinistrio. Fodd bynnag, nid oes unrhyw drosglwyddo data dros y rhyngrwyd neu ddull storio electronig yn gwbl ddiogel, ac ni allwn warantu diogelwch data absoliwt.

5. Eich dewisiadau Mae gennych yr hawl i adolygu, diweddaru, a dileu eich gwybodaeth bersonol. Gallwch gyrchu ac addasu gwybodaeth eich cyfrif trwy osodiadau eich cyfrif. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch eich data, cysylltwch â ni ar sgiliau-cymru@menterabusnes.co.uk.

6. Preifatrwydd plant Nid yw ein Platfform wedi’i fwriadu ar gyfer plant dan 16 oed. Nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol gan blant o dan yr oedran hwn yn fwriadol. Os ydych yn credu ein bod wedi casglu gwybodaeth gan blentyn yn anfwriadol, cysylltwch â ni ar unwaith, a byddwn yn cymryd camau priodol i ddileu’r wybodaeth.

7. Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd i adlewyrchu newidiadau yn ein harferion neu am resymau gweithredol, cyfreithiol neu reoleiddiol eraill. Bydd y “Dyddiad Effeithiol” ar y brig yn nodi’r fersiwn ddiweddaraf o’r polisi. Adolygwch y Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd am unrhyw ddiweddariadau.

8. Manylion cyswllt Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau, neu bryderon am y Polisi Preifatrwydd hwn neu ein harferion data, cysylltwch â ni ar sgiliau-cymru@menterabusnes.co.uk.

Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru

Menter a Busnes,

Uned 3, Parc Gwyddoniaeth,

Aberystwyth SY23 3AH