Telerau Gwasanaeth
Croeso i Swyddi Bwyd a Diod Cymru (“Platfform”); platfform ar-lein rhad ac am ddim i hysbysebu swyddi gwag yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rheolir y safle gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, sef rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a ddarperir gan Menter a Busnes.
Trwy gyrchu neu ddefnyddio’r Platfform, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau Gwasanaeth hyn (“Telerau”), gan ffurfio cytundeb cyfreithiol-rwym rhyngoch chi a Swyddi Bwyd a Diod Cymru. Os nad ydych yn cytuno â’r Telerau hyn, peidiwch â defnyddio’r Platfform.
1. Cofrestru cyfrif
I gael mynediad llawn i’r Platfform a’i nodweddion, efallai y bydd angen i chi greu cyfrif. Rydych yn cytuno i ddarparu gwybodaeth gywir a chyflawn yn ystod y broses gofrestru. Chi sy’n gyfrifol am gynnal cyfrinachedd eich manylion cyfrif a’r holl weithgareddau sy’n digwydd o dan eich cyfrif.
2. Rhestrau swyddi
Fel Defnyddiwr, efallai y bydd gennych y gallu i bostio rhestrau swyddi ar y Platfform. Rydych yn cytuno y bydd yr holl restrau swyddi y byddwch yn eu postio yn gywir, yn gyfreithlon, ac yn cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau perthnasol. Chi yn unig sy’n gyfrifol am gynnwys eich rhestrau swyddi ac unrhyw ganlyniadau sy’n deillio o bostio gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol.
Mae rhestrau swyddi a ychwanegir yn uniongyrchol at y Platfform yn cael eu hadolygu gan Swyddi Bwyd a Diod Cymru (Sgiliau Bwyd a Diod Cymru) cyn eu cyhoeddi.
3. Ceisiadau swyddi
Fel Defnyddiwr sy’n gwneud cais am swydd trwy’r Platfform, rydych yn cytuno i ddarparu gwybodaeth gywir a gwir yn eich deunyddiau cais. Nid yw Swyddi Bwyd a Diod Cymru yn gyfrifol am benderfyniadau cyflogi cyflogwyr sy’n defnyddio’r Platfform.
Nid ydym yn gwarantu cywirdeb na dilysrwydd rhestrau swyddi, ac rydym yn annog Defnyddwyr i fod yn ofalus a chynnal eu diwydrwydd dyladwy eu hunain.
4. Cynnwys defnyddiwr
Gall y Platfform ganiatáu i chi bostio, cyflwyno, neu uwchlwytho cynnwys, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i restrau swyddi (“Cynnwys Defnyddiwr”). Rydych yn cadw perchnogaeth eich Cynnwys Defnyddiwr, ond trwy ei ddarparu i ni, rydych yn rhoi trwydded fyd-eang, anghyfyngedig, heb freindal, a throsglwyddadwy i Swyddi Bwyd a Diod Cymru i ddefnyddio, atgynhyrchu, dosbarthu, paratoi gweithiau deilliadol, arddangos, a pherfformio eich Cynnwys Defnyddiwr mewn cysylltiad â gweithrediad a hyrwyddiad y Platfform.
5. Gweithgareddau gwaharddedig
Rydych yn cytuno i beidio â defnyddio’r Platfform at unrhyw ddiben anghyfreithlon neu mewn unrhyw ffordd a allai niweidio, analluogi, gorlwytho neu amharu ar ymarferoldeb y Platfform. Rydych hefyd yn cytuno i beidio ag ymgymryd ag unrhyw un o’r gweithgareddau gwaharddedig canlynol:
• Defnyddio’r Platfform i bostio gwybodaeth ffug, gamarweiniol neu dwyllodrus
• Aflonyddu, brawychu, neu fygwth Defnyddwyr eraill neu bersonél Swyddi Bwyd a Diod Cymru
• Ceisio cael mynediad heb awdurdod i’r Platfform neu gyfrifon Defnyddwyr eraill
• Defnyddio dulliau awtomataidd, gan gynnwys botiau, corynnod, neu grafwyr, i gael mynediad i’r Platfform neu i gasglu gwybodaeth Defnyddiwr
• Torri unrhyw gyfreithiau, rheoliadau neu hawliau trydydd parti cymwys
6. Preifatrwydd
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni. Adolygwch ein Polisi Preifatrwydd i ddeall sut rydym yn casglu, defnyddio a datgelu gwybodaeth am ein Defnyddwyr.
7. Addasiadau i’r Platfform
Mae Swyddi Bwyd a Diod Cymru yn cadw’r hawl i addasu, atal, neu derfynu unrhyw agwedd ar y Platfform ar unrhyw adeg heb rybudd ymlaen llaw. Gallwn hefyd osod cyfyngiadau ar rai nodweddion neu gyfyngu ar eich mynediad i rannau neu’r cyfan o’r Platfform heb atebolrwydd na rhybudd.
8. Indemniad
Rydych yn cytuno i indemnio a dal Swyddi Bwyd a Diod Cymru, ei gwmnïau cysylltiedig, swyddogion, cyfarwyddwyr, cyflogeion, asiantau, a chynrychiolwyr yn ddiniwed rhag ac yn erbyn unrhyw hawliadau, iawndal, rhwymedigaethau, colledion, a threuliau sy’n deillio o’ch defnydd o’r Platfform, eich Cynnwys Defnyddiwr, neu eich toriad o’r Telerau hyn.
9. Cyfyngiad atebolrwydd
I’R GRADDAU UCHAF A GANIATEIR GAN Y GYFRAITH BERTHNASOL, NI FYDD Swyddi Bwyd a Diod Cymru YN ATEBOL AM UNRHYW DDIFROD ANUNIONGYRCHOL, ACHLYSUROL,ARBENNIG, GANLYNIADOL NEU GOSBOL SY’N DEILLIO O NEU MEWN CYSYLLTIAD Â’CH DEFNYDD O’R Platfform, HYD YN OED OS YDYM WEDI CAEL EIN CYNGHORI AM BOSIBILRWYDD O DDIFRODAU O’R FATH.
10. Cyfraith lywodraethol ac awdurdodaeth
Bydd y Telerau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau’r Deyrnas Unedig, heb ystyried ei hegwyddorion gwrthdaro cyfraith. Bydd unrhyw anghydfodau sy’n codi o dan neu mewn cysylltiad â’r Telerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw’r llysoedd yn y Deyrnas Unedig.
11. Newidiadau i’r Telerau
Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru’r Telerau hyn o bryd i’w gilydd. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu postio ar y dudalen hon, a bydd y “Dyddiad Effeithiol” ar y brig yn adlewyrchu’r adolygiad diweddaraf. Mae eich defnydd parhaus o’r Platfform ar ôl i’r Telerau diwygiedig gael eu postio yn golygu eich bod yn derbyn y newidiadau.
12. Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y Telerau hyn neu’r Platfform, cysylltwch â ni ar sgiliau-cymru@menterabusnes.co.uk.
Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru
Menter a Busnes,
Uned 3, Parc Gwyddoniaeth,
Aberystwyth SY23 3AH